Cwrs Penwythnos Cerddoriaeth Werin i Bob Oedran
Roedd BEAM yn gwrs penwythnos cerddoriaeth werin i’r teulu a gynhaliwyd rhwng 2008 a 2017, gan ddod â dros gant o gerddorion gwerin o bob rhan o Gymru ynghyd i chwarae, canu a dawnsio! Dyma oedd prif ddigwyddiad blynyddol Trac Cymru, yn cynnwys rhai o diwtoriaid cerddoriaeth draddodiadol gorau’r genedl. Gan symud rhwng lleoliadau yn Ynys Môn, Sir Benfro a Chaerfyrddin, croesawodd y cwrs gymysgedd cyfartal o siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a’r rhai nad oeddent yn siarad Cymraeg, gan wneud BEAM yn ofod cynhwysol a dwyieithog ar gyfer ymarfer sgiliau iaith hefyd.
Roedd cerddorion ifanc yn gallu gweld bod dysgu yn angerdd gydol oes ac yn bleser, wrth iddynt ymarfer yn llawen ochr yn ochr â rhieni a neiniau a theidiau. O'r digwyddiadau bywiog hyn y bu i'r rhai a gymerodd ran yn eu harddegau gael penwythnos gwerin eu hunain, Gwerin Gwallgo, a ddilynwyd gan Gwerin Iau i'r plant lleiaf.
Trwy’r Arbrawf Mawr, daeth llawer o brosiectau newydd bendigedig yn fyw: cwrddon ni â Gwen Mairi, a aeth ymlaen i ymuno â’n prosiect 10 Mewn Bws, a arweiniodd at gyfleoedd recordio fel telynores werin Gymreig yn ogystal â thiwtora Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru; cwrddon ni â'r canwr a'r ffliwtydd Huw Evans a ymunodd hefyd â 10 Mewn Bws, a Jess Ward sydd ers hynny wedi rhyddhau dwy albwm o delyn a chaneuon; Cychwynnodd Clybiau Alawon ym Machynlleth a Llanilltud Fawr, yn cael eu rhedeg gan fynychwyr rheolaidd yr Arbrawf Mawr; a dysgodd a datblygodd rhai o brif gerddorion gwerin cyfoes Cymru, fel Aneirin Jones Vri a Jordan Price Williams, ochr yn ochr â dwylo mwy profiadol ar y penwythnosau cofiadwy hyn.