10 Mewn Bws

Nod prosiect 10 Mewn Bws oedd ailddehongli a dirgelu cerddoriaeth werin draddodiadol Gymreig trwy ddewis deg cerddor o wahanol gefndiroedd cerddorol i ymchwilio i’w gwreiddiau cerddorol ac i ail-ddehongli cerddoriaeth draddodiadol Gymreig mewn ffyrdd sy’n berthnasol iddyn nhw, ac i gynulleidfaoedd modern. Teithiodd y deg cerddor o gwmpas Cymru, gan ymweld â’r archifau sain yn Sain Ffagan a chasgliadau cerddoriaeth y Llyfrgell Genedlaethol, yn ogystal â chwrdd â rhai o ‘deiliaid traddodiad’ ac ethnogerddoregwyr Cymru gan gynnwys Phyllis Kinney a Meredydd Evans, Arfon Gwilym, a Stephen Rees. Rhoddodd Polly March BBC Cymru broffil o’r prosiect yn ei blog, y gallwch ei ddarllen yma: Canlyniadau prosiect gwerin arloesol wrth lansio albwm a thaith.

Yna, mewn encil ysgrifennu wythnos o hyd yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, buont yn cydweithio i ail-ddehongli’r deunydd traddodiadol a chyfansoddi gwaith newydd yn seiliedig ar eu profiadau yn ystod y cyfnod ymchwil. Daeth y daith i ben yng Ngŵyl Swn ar ddechrau digwyddiad World Music Expo (WOMEX) yng Nghaerdydd, dathliad amserol o brosiect blwyddyn o hyd llwyddiannus, ac o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig mewn digwyddiad byd-eang. Aeth 10 Mewn Bws ymlaen i deithio eto yng Nghymru gan gynnwys cefnogi Cerys Matthews yng Ngŵyl y Gelli, a chyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol. Albwm cyflawn oedd y cynnyrch terfynol, a ryddhawyd gan Trac Cymru a Recordiau Sain ym mis Hydref 2013, a thaith o amgylch Cymru.

Previous
Previous

Dros y Ffin

Next
Next

Welsh Music Abroad