Rhaglen Teithio Cymru-Lloegr
Comisiwn ar y cyd gan Trac Cymru a’r English Folk Dance and Song Society oedd Dros y Ffin, a gefnogwyd gan raglen Beyond Borders Sefydliad PRS for Music a Chyngor Celfyddydau Cymru. Gan gynnwys rhai o’r cerddorion gwerin cyfoes ifanc gorau sydd i’w cael, archwiliodd a dathlodd y prosiect hanes a diwylliant cyffredin dwy genedl – Cymru a Lloegr. Mewn cydweithrediad preswyl artistig unigryw, ymchwiliodd y cerddorion i archifau cenedlaethol y ddwy wlad i ddarganfod caneuon a thunau traddodiadol a groesodd y ffin, gan greu deunydd newydd yn ystod cyfnod preswyl byr yn Tŷ Newydd – Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru a chyn-gartref David Lloyd George.
Y chwe artist oedd Elan Rhys (Plu), Patrick Rimes (Calan, Vrï) a’r unawdydd Georgia Ruth o Gymru, a Lucy Ward, Archie Churchill-Moss a David Gibb o Loegr. Datblygodd y grŵp sioe newydd gan ddefnyddio deunydd, caneuon a gwybodaeth a ddatgelwyd ar eu taith a oedd yn nodi’r tebygrwydd ac yn cofleidio gwahaniaethau’r deunydd. Perfformiwyd sioe Dros y Ffin mewn tri chyngerdd proffil uchel yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd a Cecil Sharp House, cartref Cymdeithas Ddawns a Chân Werin Lloegr, yn Llundain ym mis Mai 2015. Gan adlewyrchu treftadaeth o wahaniaethau diwylliannol a cherddorol sydd wedi croesi ffiniau, wedi’i weu at ei gilydd yn eu harddulliau dihafal eu hunain, roedd y darn hwn o hanes cerddorol yn gyfle prin i ddymuniad unigryw.