Gwerin Iau

Cwrs Gwerin Iau Preswyl Penwythnos

Yn dilyn llwyddiant ein cwrs gwerin i bobl ifanc, Gwerin Gwallgo, fe wnaethom ddatblygu Gwerin Iau – cwrs penwythnos ar gyfer plant iau rhwng 8 ac 13 oed. Yma, gallant ddysgu canu, dawnsio clogiau a sgiliau offerynnol gyda thiwtoriaid profiadol a phoblogaidd. Pan gynhelir y cwrs yn Glan-Llyn, ceir cyfleoedd i gymryd rhan yng ngweithgareddau awyr agored cyffrous y ganolfan, yn amrywio o ganŵio, rhaffau uchel a dringo, i fowlio deg pin a nofio. Yn ôl y tiwtor Angharad Jenkins, “Mae Gwerin Iau yn cynnig llawer mwy na dim ond addysgu am gerddoriaeth Gymreig a chelfyddydau traddodiadol – mae’n datblygu hyder, sgiliau cymdeithasol a sgiliau bywyd cyffredinol y plant, tra eu bod yn cael hwyl.”

Mae’r plant yn cael cyfle i ddysgu gyda rhai o sêr disgleiriaf traddodiad gwerin Cymru! Mae tiwtoriaid y cwrs yn arbenigwyr wrth gyflwyno cerddoriaeth a dawns werin i blant o bob oed. Gall y plant ganolbwyntio ar chwarae offeryn, canu neu ddawnsio clogiau, tra’n gwneud ffrindiau newydd a datblygu sgiliau newydd. Yn ôl adborth y plant, un o’r pethau pwysicaf am y cwrs hwn yw’r cyfle i wneud ffrindiau newydd. Mae llawer o’r plant yn gwerthfawrogi’r ffaith bod y cwrs yn dod â phlant o ogledd a de Cymru at ei gilydd, a’u bod yn gallu dysgu cerddoriaeth draddodiadol drwy wrando, mewn awyrgylch anffurfiol. Ar gyfer yr opsiwn offerynnol, rhaid i’r plant allu chwarae eu hofferyn eisoes, gan fod y cwrs yn golygu dysgu alawon drwy wrando (ac felly, nid yw’n addas ar gyfer dechreuwyr llwyr).

 

Archebu a Bwrsarïau

Mae'r cwrs hwn yn gynhwysol – mae'r gost yn cynnwys pob pryd bwyd, llety, a hyfforddiant.

I gael tocynnau a rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen hon pan fydd y broses archebu ar agor, neu cysylltwch â ni drwy e-bost.

 
Previous
Previous

Gwerin Gwallgo

Next
Next

Diwrnod Gwerin Ewropeaidd