Gwerin Gwallgo

Cwrs Gwerin Ieuenctid Preswyl 4 Diwrnod

Mae Gwerin Gwallgo yn gwrs preswyl pedwar diwrnod llawn egni i bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed. Dyma gyfle i wneud ffrindiau, datblygu sgiliau newydd, ac adeiladu repertoire o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig, dawns, canu a stori-adrodd. Mae’r cwrs yn denu tua 40 o bobl ifanc ac yn cael ei gynnal yn Glan Llyn – Canolfan Breswyl yr Urdd yn y Bala. Mae’r ganolfan yn cynnig gweithgareddau awyr agored, fel canŵio ac adeiladu rafftiau, y gallwch eu dewis fel rhan o’ch amserlen. Mae’r cwrs yn cynnwys gwersi offerynnol, canu a dawnsio clog, yn ogystal â sesiynau band mawr a chanu ar y cyd yn ystod y dydd. Yn y nos, ceir sesiynau anffurfiol, cyngherddau, twmpathau a mwy.

Mae Gwerin Gwallgo yn ein helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o gerddorion a thiwtoriaid proffesiynol, yn ogystal â’r rhai sy’n mwynhau cerddoriaeth werin a dawns er mwyn y hwyl yn unig. Ffurfiwyd bandiau ifanc fel Beca a Tant yno, ac mae gan bobl ifanc hŷn gyfle i ddychwelyd fel gwirfoddolwyr. Mae rhai, fel Aneirin Jones o VRï, a Rhys Morris ac Osian Gruffydd o AVANC, wedi mynd ymlaen i fod yn diwtoriaid ar y cwrs! Mae llawer o ‘raddedigion’ eraill wedi ymuno â’n prosiect, Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru, a gychwynnodd fel cynllun peilot yn 2018. Cymerwch olwg ar restr chwarae YouTube Gwerin Gwallgo isod!

 

Dosbarthiadau

 

Archebu a Bwrsarïau

Mae'r cwrs hwn yn gwbl gynhwysol - mae'r gost yn cynnwys yr holl brydau bwyd, llety a ffioedd dysgu.

Rydym am i bawb fwynhau'r cwrs hwn. Rydym yn cynnig llwybr mynediad personol a adeiladwyd gan Gelfyddydau Anabledd Cymru. Mae hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddweud wrthym am unrhyw ofynion corfforol a niwroamrywiol a allai fod gennych. Mae ein bwrsariaethau wedi'u cynllunio i gefnogi pobl a allai wynebu rhwystrau ariannol i gael mynediad i'n cyrsiau.

Am docynnau a rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen hon unwaith y bydd yr archeb ar waith neu cysylltwch drwy e-bost.

 
Previous
Previous

Diwrnod Gwerin yn Sain Ffagan

Next
Next

Gwerin Iau