Fel rhan o'n gwaith addysg ieuenctid, gallwch ddod o hyd i ni yn Sain Ffagan yn cynnal digwyddiadau trwy'r dydd am ddim sy'n llawn cerddoriaeth, dawns a darganfyddiadau! Mae ein Diwrnodau Gwerin yn Sain Ffagan yn gyfleoedd hamddenol a diddorol i ddysgu sgiliau newydd, symud, a chysylltu â threftadaeth fyw Cymru. Mae'r digwyddiadau hyn, sydd ar agor i bob lefel, hefyd yn cynnwys amser gydag un o guraduron yr amgueddfa, gan archwilio gwrthrychau o'r casgliad sy'n gysylltiedig â bywyd a thraddodiadau gwerin Cymru.
Cynhaliwyd ein Diwrnodau Gwerin diwethaf yn Sain Ffagan yn ystod mis Awst. Ewch i'r dudalen hon am ddyddiadau newydd i'w cadarnhau!