Mae ein prosiect cymunedol diweddaraf yn cael ei ariannu gan Gronfa Tradd Tŷ Cerdd, mewn partneriaeth â Menter Iaith Merthyr Tudful a Theatr Soar. Mae prosiect ‘Cân y Drudwy’ yn cynnig cyfle i bobl ddysgu caneuon gwerin Cymraeg mewn awyrgylch hwyliog ac anffurfiol yn Theatr Soar. Mae’r sesiynau canu yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg o bob lefel, gan gynnwys dysgwyr a siaradwyr rhugl. Cynhelir sesiwn awr a hanner ddwywaith y mis ar foreau Sadwrn, dan arweiniad tiwtoriaid cerddoriaeth werin profiadol – cerddorion a chantorion. Bydd y caneuon yn gymharol syml i bawb eu dysgu, gan alluogi’r grŵp i fwynhau canu gyda’i gilydd. ‘Gorau canu cyd-ganu’ – y ffordd orau o ganu yw canu gyda’i gilydd!
Pam ‘Cân y Drudwy’? Mae drudwyon yn adar cymdeithasol iawn, sy’n treulio llawer o’u hamser gyda’i gilydd mewn heidiau. Maent yn gantorion ac yn ddynwaredwyr gwych, ac yn gallu dysgu synau a chaneuon cymhleth. Mae gan y drudwy hefyd arwyddocâd gwerin cryf, sy’n gwreiddio yn y Mabinogi fel ‘Drudwy Brânwen’.
Am ragor o wybodaeth am ddyddiadau’r sesiynau a’r tiwtoriaid, ewch i https://www.theatrsoar.cymru/en/events neu cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.