Beth Sy’n Digwydd

Yma, gallwch chi ddod o hyd i bopeth rydyn ni'n ei wneud ar hyn o bryd. Y ffordd orau o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith a holl bethau celfyddydau gwerin Cymru yw cysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol a thanysgrifio i’n cylchlythyr, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru a rhoi dilyniant i ni i lawr y dudalen hon.

Adolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol

Yma o Hyd

Rydym yn croesawu'r adolygiad am gymorth ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. Am bob Dafydd Iwan mae cannoedd o ffidlwyr, telynwyr, dawnswyr a chantorion sy'n cwrdd mewn ceginau, caffis a bariau i ganu, dawnsio a chwarae. Mae cerddoriaeth gwerin, yn ôl diffiniad, yn cael ei throsglwyddo o un genhedlaeth i'r llall. Os mae un ddolen yn cael i gymryd o'r gadwyn, mae'r gadwyn yn torri, ac mae'r gerddoriaeth yn stopio. Felly os nad yw ein hysgolion yn ei dysgu, neu os nad yw'r rhai sy'n tyfu fyny yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yn gallu fforddio neu gael mynediad i ffidil neu wers cerddoriaeth, yna bydd yn troi yn hobi i'r rai sy'n well eu lle. Felly mae'r angen am gymorth yn frys.

Er bod cyhoeddiad o'r buddsoddiad £300,000 yn gam positif, dyw hi ddim yn gwbl glir bod hyn yn cynrychioli buddsoddiad triphlyg mewn cerddoriaeth draddodiadol. Gan ddefnyddio data CCC, ddylai fod o gwmpas £450,000 y flwyddyn. Byddem yn gefnogol iawn pe bai Cymru yn mabwysiadu model cyfoethog yr Alban, a fyddai'n arwain at fuddsoddiad o £2.5 miliwn y flwyddyn yn y ffurf gelf hon sy'n gallu hybu a diogelu diwylliant, etifeddiaeth, a'r iaith Gymraeg.

Mae cerddoriaeth draddodiadol yn rhan fyw o'n diwylliant. Dyna beth sy'n gwneud ein cerddoriaeth draddodiadol yn arbennig. Gall canwr gwerin canu mewn stadiwm pêl-droed llawn ar nos Sadwrn ac wedyn ar ddydd Sul, dysgu eu nithoedd hen ganeuon y pentref yn y gegin.

Ond os ydym am sicrhau bod y gerddoriaeth hon a'r traddodiad yn parhau ac yn cael eu diogelu a chryfhau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae angen sefydliadau fel Trac Cymru i barhau i wneud y gwaith. Mae ymatebion y cyhoedd i'r adolygiad yn cefnogi hynny'n eithriadol. Mae hyn yn symud Cymru yn y cyfeiriad cywir. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu adnoddau, cyrsiau a hyfforddiant sy'n cynyddu cyfranogiad a rhagoriaeth proffesiynol, a gweithio gyda’r CCC a sefydliadau eraill i sicrhau bod diwylliant unigryw Cymru o hyd yn fyw i ni ei drosglwyddo i'n hwyrion.

"Mae'r adolygiad hwn yn helaeth iawn, gan roi rhybudd i bawb am y ffaith bod cerddoriaeth draddodiadol (ac felly enaid Gwlad y Gân) dan fygythiad os nad ydynt yn cael y lefel o gymorth a welwn mewn gwledydd eraill." Dwedodd Dr. Jim Blythe, Cadeirydd Trac Cymru.

Cân Y Cymoedd: When Valleys Sing

Illustrations of six stamps featuring Welsh landmarks: Castell Coch, South Wales Miners Museum, Aberdulais Falls, Rhondda Heritage Park, Neath Abbey, and Cynon Valley Museum. Each design showcases iconic elements of each location.

Mae Can y Cymoedd yn brosiect sy'n rhedeg ar hyn o bryd yn Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot sy'n ymroddedig i feithrin creadigaeth newydd o gerddoriaeth werin Gymreig trwy ddod â phobl ifanc, cymunedau a cherddorion profiadol ynghyd. Nod y prosiect tair blynedd hwn yw cysylltu cymunedau yn Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot â’u hanes a’u treftadaeth leol tra ar yr un pryd yn archwilio traddodiadau cyfoethog cerddoriaeth werin Gymreig, gan ysbrydoli cyfansoddiad caneuon newydd sy’n adrodd straeon am fywyd cyfoes.

Yr Hirgan | The Long Song - Te Waiata Roa

Bydd y preswyliad rhyngwladol hon yn dod âg artistiaid Māori, Sámi, Galeg, Scots a Chymraeg ynghyd i rannu caneuon, straeon a diwylliant sydd wedi seiliedig ar dir a llinachau.

Mae’r prosiect ‘Yr Hirgan’ yn dathlu traddodiadau straeon sy’n parhau o gymunedau brodorol a lleol trwy gerddoriaeth, gan ganolbwyntio ar wytnwch diwylliannol a threftadaeth gymunedol.

Trwy gydweithio ag artistiaid a dalwyr o wybodaeth yn FOCUS Wales a Gŵyl Knockengorroch, mae’r fenter yn anelu at adfywio a chynnal cerddoriaeth draddodiadol wrth hybu cyfnewid diwylliannol. Bydd y grŵp yn cyd-greu seremoni agoriadol ar gyfer yr ŵyl yn ogystal â chyflwyno gweithdai a pherfformio yn yr ŵyl!

Mae'r cerddor Cymreig sy'n cymryd rhan yw Eve Goodman.

Aros yn Gysylltiedig

Pam tanysgrifio i'n cylchlythyr neu ein dilyn ar-lein?

  • Sicrhewch brisiau tocynnau adar cynnar unigryw ar gyfer ein cyrsiau

  • Peidiwch byth â cholli gig!

  • Rydyn ni'n gosod y dyddiadau ac rydych chi'n llenwi'ch calendr

  • Clywch am newyddion, digwyddiadau a gwyliau sy'n digwydd ledled Cymru

  • Dewch i gael cipolwg ar swyddi a chyfleoedd yn y celfyddydau gwerin

  • Cadwch i fyny ag artistiaid a'u datganiadau cerddoriaeth

  • Cymerwch ran mewn sesiynau, clybiau gwerin, twmpathau a mwy

  • Arbedwch ein rhestri chwarae a chael gair o gynhyrchion newydd yn y siop!