Amdanom Ni

Wedi’i sefydlu gan gerddorion a chefnogwyr gwerin, mae Trac Cymru yn sefydliad datblygu gwerin sydd wedi bod yn meithrin, hyrwyddo a chefnogi celfyddydau a diwylliant traddodiadol Cymru ers 1997. Mae Trac Cymru yn cynnwys tîm mewnol bach, sy’n gweithio gyda phobl greadigol llawrydd gwych a phartneriaid i greu cyfleoedd a gofodau i’r celfyddydau traddodiadol gael eu dysgu, i ffynnu ac i esblygu. Fe welwch ni’n gweithio gydag artistiaid, ysgolion, cymunedau, ar feysydd gŵyl ac mewn sioeau rhyngwladol, gan helpu i sicrhau bod celfyddydau traddodiadol Cymru yn parhau i gyfoethogi bywydau. Ewch i’r dudalen ‘Ein Gwaith’ ac archwiliwch 4 elfen allweddol yr hyn a wnawn.

Ein Cenhadaeth yw sicrhau bod celfyddydau gwerin Cymru yn parhau i fod yn draddodiadau byw, sy'n tyfu ac yn esblygu gyda phob cenhedlaeth newydd. Ein Gweledigaeth yw Celfyddydau traddodiadol Cymru wrth galon bywyd cyfoes Cymru.

FAQs

Cymerwch Rhan

Cymerwch Ran Siapio dyfodol celfyddydau gwerin Cymru drwy ddod yn ymddiriedolwr neu ymuno â’n rhwydwaith o weithwyr llawrydd…

Ein Polisïau