Rhoddi
Mae celfyddydau traddodiadol Cymru yn garreg sylfaen yn hunaniaeth ein cenedl. Mae ein cerddoriaeth, ein cân, ein cerdd dant, ein dawns, a’n hadrodd straeon yn cario ac yn mynegi ein hanes, ein hieithoedd, ein diwylliant a’n ffordd o fyw nodedig. Gallwch chi helpu ein helusen i ofalu am a datblygu'r dreftadaeth werthfawr hon. Gyda'ch cefnogaeth chi gallwn barhau i gyrraedd miloedd o bobl bob blwyddyn mewn gweithdai, cyrsiau preswyl a pherfformiadau cyhoeddus. Mae ein tîm bach ond ymroddedig yn cefnogi cannoedd o gerddorion, cantorion, dawnswyr, gwyliau a threfnwyr gwerin trwy ddarparu gwybodaeth a chyngor iddyn nhw ac i’r cyhoedd. Rydym yn annog y genhedlaeth nesaf o gerddorion a dawnswyr, yn darparu Datblygiad Artistiaid ar gyfer perfformwyr proffesiynol, ac yn hyrwyddo cerddoriaeth o Gymru mewn digwyddiadau rhyngwladol. Dyma rai o'r ffyrdd y gallwch chi fod yn rhan o hyn. Bydd unrhyw gyfraniad y gallwch ei wneud, boed yn fawr neu’n fach, yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu cerddoriaeth a chaneuon, dawns a straeon Cymru i ffynnu. Os ydych yn drethdalwr yn y DU, bydd Rhodd Cymorth eich rhodd yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy gwerthfawr i ni.
-
Byddai rhodd reolaidd i gefnogi ein gwaith yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth o gadw cerddoriaeth werin, dawns, canu a stori Cymru yn llewyrchus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae rhoddion rheolaidd yn ein helpu i gynllunio ein gwaith a sicrhau bod ein treftadaeth ddiwylliannol yn parhau i gael ei chynnal yn dda. Byddai cyfraniad rheolaidd o £10 y mis yn fuddsoddiad gwerth chweil yn nyfodol celfyddydau gwerin traddodiadol Cymru. Fel elusen gofrestredig, bydd Rhodd Cymorth eich rhoddion rheolaidd hyd yn oed yn fwy gwerthfawr i'r gwaith a wnawn. I ddod yn Ffrind, cliciwch ar y botwm Rhoi uchod a dewis rhoi yn rheolaidd.
-
Nod Trac Cymru yw gwneud dysgu a rhannu yn ein treftadaeth ddiwylliannol mor hygyrch â phosibl. Mae ein cyrsiau preswyl bob amser yn cynnig lleoedd bwrsariaeth ar gyfer achosion o galedi ariannol; gyda'ch cymorth chi gallem wneud mwy. Gallech noddi lle bwrsariaeth yn eich enw eich hun, fel cofeb i rywun annwyl, neu’n ddienw. Byddech yn helpu plentyn neu berson ifanc o deulu llai ffodus i ddatblygu’n greadigol ac yn gymdeithasol. Cysylltwch â ni ar trac@trac-cymru.org am fanylion ynghylch pa weithgareddau cyfredol a allai elwa o’ch cymorth.
-
Drwy adael rhodd i Trac Cymru yn eich Ewyllys, byddwch yn parhau i wneud gwahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod. Efallai yr hoffech gefnogi ffurf arbennig ar gelfyddyd – cerddoriaeth, dawns, cân, cerdd dant, stori – neu weithgareddau ar gyfer ystod oedran arbennig, ardal ddaearyddol neu grŵp difreintiedig, er enghraifft. Neu efallai yr hoffech chi gefnogi gwaith cyffredinol ein helusen ar ran pobl a diwylliant Cymru. Mae rhagor o wybodaeth yn y ddogfen PDF isod y gallwch ei lawrlwytho. I drafod opsiynau, neu yn syml am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Trac Cymru ar trac@trac-cymru.org
Gadael Cymynrodd (PDF i'w lawrlwytho)
Leaving a Legacy (downloadable PDF)
-
Gallai cefnogi gweithgareddau Trac Cymru ddod â buddion i’r ddwy ochr. Ystyriwch:
Gwobrau Gwerin Cymru: deg gwobr bob dwy flynedd yn gwobrwyo rhagoriaeth, a ddarlledir ar y radio a chyda sylw helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol
Ensemble Gwerin Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: casgliad o dalentau ifanc yn cynrychioli’r wlad gartref a thramor.
Rhwydweithio rhyngwladol gyda phartneriaid ar draws Ewrop, Gogledd America ac Awstralasia trwy’r Rhwydwaith Gwerin Ewropeaidd, WOMEX, Folk Alliance a mwy
Ein cyrsiau preswyl ar gyfer cerddorion oed ysgol, cantorion a dawnswyr – noddwch y digwyddiad cyfan neu leoedd unigol arno, er enghraifft, ar gyfer plentyn o leoliad eich busnes
Cysylltwch â ni ar trac@trac-cymru.org i drafod sut y gallem gydweithio. Mae Trac Cymru yn elusen gofrestredig ac yn aelod o Celfyddydau & Busnes Cymru.