‘TAITH’ yw ein prosiect newydd, sy’n gyfres o deithiau gan artistiaid gwerin Cymreig - taith o ddarganfod. Mae 'taith' yn golygu taith cerddorol ac hefyd siwrne - enw addas am brosiect sy'n canolbwyntio ar ddarganfod a datblygiadau proffesiynol. Bydd y prosiect yn cefnogi chwe act werin o Gymru i berfformio mewn lleoliadau theatr ar ledled Cymru rhwng y gwanwyn 2026 a’r gwanwyn 2027, i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, ac hyrwyddo gyrfaoedd yr artistiaid. Nod y prosiect hefyd yw llenwi bwlch ar ran argaeledd rheolaeth a chefnogaeth i artistiaid gwerin yng Nghymru.
Mae TAITH yn cynnwys tair taith gan dri act canol-gyrfa a thri act ar ddechrau eu gyrfa neu’n datblygu. Bydd pob taith yn cynnwys dwy act, y prif artist ac act cefnogi. Bydd Trac Cymru, fel rheolwr y daith, yn trefnu pob elfen y teithiau, gan gefnogi'r artistiaid i ddatblygu eu gyrfaoedd. Mari Mathias a’i band yw’r taith gyntaf fel y brif artist, perfformio yn saith theatr, gan lansio ei halbwm newydd 'Cyfarwydd', gyda chefnogaeth gan Angharad Jenkins a Patrick Rimes. Gweler isod am wybodaeth am ddyddiadau a lleoliadau.
Bydd yr ail daith, yn yr hydref, gyda thriawd Gwilym Bowen Rhys + cefnogaeth. Bydd ein trydedd daith ar gyfer gwanwyn 2027 i'w gadarnhau.