Kann An Tan

Prosiect Artistig Cymru-Llydaw

Roedd Kann an Tan yn brosiect ar y cyd â Tafwyl, Trac Cymru a’r Cyngor Prydeinig, yn cyfuno cerddorion o Gymru a Llydaw i gynhyrchu set ar gyfer llwyfan Tafwyl 2022. Daeth â chwe artist ynghyd – tri o Gymru a thri o Lydaw – i greu cerddoriaeth newydd ynghyd fel partneriaid. Yr artistiaid yn cydweithio oedd Gwilym Bowen Rhys a Nolwenn Korbell, Cerys Hafana a Léa, a Sam Humphreys a Krismenn. Hwyluswyd y prosiect gan y cerddor Lleuwen Steffan, sy’n hanu o Gymru ac yn byw yn Llydaw!

Nod y prosiect oedd rhoi cyfle i’r artistiaid weithio gydag artist o wlad wahanol sydd hefyd yn creu a pherfformio mewn iaith leiafrifol. Treuliodd yr artistiaid dridiau cyn Tafwyl gyda’i gilydd yn stiwdios Musicbox yng Nghaerdydd – cyn perfformio’n fyw gyda’i gilydd ar lwyfan Y Sgubor yn Nhafwyl. Cymerwch olwg ar glipiau o bob un o'r perfformiadau cydweithredol arbennig isod ac ewch i'n sianel Youtube am fwy o fideos!


Gwilym Bowen Rhys x Nolwenn Korbell

Daw Gwilym o bentref Bethel yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae wedi bod yn canu yn ei iaith frodorol, y Gymraeg, ers cyn y gall gofio, ac mae wedi datblygu cysylltiad dwfn â chaneuon a cherddoriaeth draddodiadol ei wlad. Mae ei gerddoriaeth yn gymysgedd o'r hen a'r newydd, gan ddod â geiriau a melodïau Cymreig hynafol yn fyw drwy ei ddull cerddorol blaengar ei hun. Yn 2019, enillodd y wobr am yr ‘artist unigol gorau’ yng Ngwobrau Gwerin Cymru, ac mae wedi perfformio ei gerddoriaeth ledled y byd. Mae Gwilym yn cydweithio â Nolwenn Korbell, cantores-gyfansoddwraig ac actores o Llydaw yn Ffrainc. Mae hi’n fwyaf adnabyddus am ei chaneuon yn yr iaith Lydaweg – boed hynny gyda’i cherddorion neu mewn deuawd gyda’r gitarydd Soïg Sibéril – ac mae wedi rhyddhau pum albwm. Mae hi’n perfformio’n rheolaidd mewn cyngherddau, ac yn parhau i weithio fel actores mewn cynyrchiadau theatr a ffilmiau.


Samiwel Humphreys x Krismenn

Daw Sam Humphreys o Benrhyn Llŷn. Dechreuodd drwy chwarae cerddoriaeth roc ac electronig mewn clybiau nos, cyn darganfod cyfuniad hudolus o gerddoriaeth werin ac arddulliau modern. Yn ogystal â bod yn gerddor, mae wedi bod yn recordio, cynhyrchu a chymysgu cerddoriaeth gydag ystod eang o artistiaid ac arddulliau. Mae hefyd wedi gweithio fel cyfansoddwr ar gyfer ffilm a theledu. Mae Sam yn cydweithio â Krismenn, rapiwr, canwr-gyfansoddwr a cherddor o Ffrainc sy'n rhan o ddiwylliant Llydaw. Ef yw dyfeisiwr ‘kan ha beatbox’, sy'n cyfuno’r arddull werin draddodiadol, ‘kan ha diskan’, â ‘beatbox’ dynol. Gan ei fod yn frwdfrydig dros rap, ‘beatbox’ a’r iaith Lydaweg, mae dull Krismenn yn cyfuno canu traddodiadol â cherddoriaeth ‘bluegrass’, cerddoriaeth drefol a cherddoriaeth electronig.


Cerys Hafana x Léa

Mae Cerys Hafana yn chwaraewraig telyn deir-res ac yn gyfansoddwraig o Fachynlleth, sy’n ail-lunio, trawsnewid a rhoi tro newydd ar gerddoriaeth draddodiadol. Maent yn archwilio posibiliadau creadigol deunydd archif, caneuon gwerin a salmau, synau a ganfuwyd a phrosesu electronig, ochr yn ochr â chyfansoddiadau gwreiddiol. Roedd Cerys yn fyfyrwraig ar ein cwrs gwerin i bobl ifanc, Gwerin Gwallgo, ac yn aelod o’n Ensemble Gwerin Ieuenctid Cenedlaethol cyntaf. Mae Cerys yn cydweithio â’r gantores, chwaraewraig bas a chyfansoddwraig caneuon Léa (Léa Digois) o Lydaw (sy’n wreiddiol o Loc-Envel, Côtes-d'Armor), sy’n adnabyddus am ei geiriau barddonol a’i harddull acwstig sy’n cyfuno cerddoriaeth werin â thraddodiad y chanson Ffrengig.

Previous
Previous

FOCUS Wales

Next
Next

Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru