Text saying 'GWERIN IAU' in orange and blue font

Mae ein cwrs gwerin breswyl i blant ifanc yn ôl yn Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, rhwng y 28ain a'r 30ain o Dachwedd!
Yn dilyn llwyddiant ein cwrs gwerin ieuenctid Gwerin Gwallgo, datblygwyd Gwerin Iau, cwrs penwythnos i bobl ifanc 8-13 oed. Yma, gallant ddysgu sgiliau canu, clocsio ac offerynnol gyda thiwtoriaid profiadol a phoblogaidd.

Yng ngeiriau arweinydd y cwrs Angharad Jenkins, “Mae Gwerin Iau yn cynnig cymaint mwy nag addysgu am gerddoriaeth Gymreig a chelfyddydau traddodiadol – mae’n datblygu hyder, sgiliau cymdeithasol a sgiliau bywyd cyffredinol plant wrth iddynt gael hwyl.” Edrychwch ar y fideo isod a byddwch yn gweld cymaint o amser ysbrydoledig a gawsant. Am fwy o fideos Gwerin Iau, ewch i'n sianel youtube!

Caiff y plant gyfle i ddysgu gyda rhai o sêr disgleiriaf y traddodiad gwerin Cymreig! Ar gyfer yr opsiwn offerynnol, rhaid i blant allu chwarae eu hofferyn gan fod y cwrs yn cynnwys dysgu alawon ar y glust (ac felly nid yw'n addas ar gyfer dechreuwyr pur.)

Mae tiwtoriaid y cwrs bob amser yn arbenigwyr mewn cyflwyno cerddoriaeth a dawnsio gwerin i blant o bob oed. Gall plant ganolbwyntio ar chwarae offeryn, canu neu ddawnsio step (clocsio), wrth wneud ffrindiau newydd a datblygu sgiliau newydd. Wrth ei chynnal yng Nglan-Llyn, mae cyfleoedd i gymryd rhan yng ngweithgareddau awyr agored cyffrous y ganolfan, o ganŵio, rhaffau uchel, a dringo, i fowlio deg a nofio.

Archebu a Bwrsariaethau

Mae'r cwrs hwn yn gwbl gynhwysol - mae'r gost yn cynnwys yr holl brydau bwyd, llety a hyfforddiant. Pris tocyn penwythnos safonol yw £180, a mae 5 bwrsariaeth ar gael am ffi ddisgownt o £50 i bobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau rhag cael mynediad i gyrsiau preswyl. Cysylltwch â jordan@trac-cymru.org am fwy o wybodaeth.
Archebu eich tocyn yma

Group of children playing musical instruments, including violins and a flute, in a classroom setting.
A collection of pairs of clogs, with laces dangling on a wooden floor.
Children in a music classroom playing guitars and various woodwind instruments.

O adborth y plant, un o’r pethau pwysicaf am y cwrs hwn yw’r cyfle i wneud ffrindiau newydd. Mae llawer o’r plant yn hoffi’r ffaith bod y cwrs yn dod â phlant o ogledd a de Cymru at ei gilydd, a’u bod yn gallu dysgu cerddoriaeth draddodiadol ar y glust, mewn lleoliad anffurfiol. Edrychwch beth arall mae pobl ifanc yn ei ddweud wrthym am y cwrs isod!

  • “I’ve learnt that I’m better on the harp than I thought”

    - Survey Response

  • “This was the first time I’ve ever played music without the manuscript – I thought I’d never be able to play without a music stand in front of me.”

    - Survey Response

  • “I have learnt that if you are dreading doing something it can actually be quite fun!”

    - Survey Response