Diwrnod Gwerin yn Sain Ffagan
Ymunwch â ni yn Sain Ffagan am ddiwrnod llawn cerddoriaeth, dawns a darganfyddiadau gwerin! Diwrnod hamddenol a diddorol i ddysgu sgiliau newydd, symud, a chysylltu â threftadaeth fyw Cymru. Ar agor i bob lefel, mae'r diwrnod hefyd yn cynnwys amser gydag un o guraduron yr amgueddfa, gan archwilio gwrthrychau o'r casgliad sy'n gysylltiedig â bywyd a thraddodiadau gwerin Cymru. Cliciwch isod i archebu eich tocyn am ddim!