Traddodiad Mis Mai o Ogledd-ddwyrain Cymru
Mae Cadi Ha yn draddodiad Cymreig byw sy’n tarddu o Ogledd-ddwyrain Cymru, ac sy’n cyfuno dawns werin a chân. Isod, gallwch weld fideo o Cadi Ha ar waith, fel rhan o orymdaith yn Nhreffynnon y cyfeirir ati yn yr erthygl hon gan Franses Jones (Cymdeithas Dawns Werin Cymru). Yn ddiweddar, mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i brosiect gan Osian Meillir o’r enw ‘Mari Ha’, sy’n cyfuno traddodiadau Cadi Ha a’r Fari Lwyd i greu perfformiad dawns! Comisiwn ar y cyd gan Menter Bro Morgannwg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Gŵyl Green Man yw’r gwaith hwn; gallwch ddarllen mwy amdano yma. Gwyliwch rai fideos ar waelod y dudalen!
Erthygl gan Franses Jones
Hwp Ha Wen, Cadi Ha, Morys Stowt, Am yr uchla neidio,
Hwp dene fo!
Fy ladal i, a’i ladal o, a ladal ges i fenthyg,
Cynffon buwch a chynffon llo a chynffon Rhisiart Parri’r go’,
Hwp dene fo!
Dyma linell neu ddwy o gân draddodiadol o Sir y Fflint, a genir gan y dawnswyr wrth iddynt orymdeithio trwy strydoedd tref farchnad Treffynnon ar ddydd Sadwrn cyntaf mis Mai. Mae’n draddodiad byw sy’n parhau ac yn esblygu gyda phob cenhedlaeth. Dywedir bod y grŵp gwreiddiol o Bagillt yn arfer cychwyn o’r pentref yn gynnar yn y bore a dawnsio ar hyd y ffordd, er mwyn bod yn barod i ddawnsio yn Nhreffynnon am dri o’r gloch y prynhawn.
Mae cofnodion sy'n ymestyn dros ddwy ganrif yn dangos dynion o gymunedau mwyngloddio gorllewin Sir y Fflint (yn enwedig o'r Fflint, Bagillt, Treffynnon, Mostyn a Llanasa) yn perfformio ac yn dawnsio ar ddiwrnod cyntaf mis Mai. Weithiau, byddai'r gweithgareddau'n parhau am hyd at bythefnos, gyda'r dynion yn teithio – gan ddefnyddio'r rheilffordd – i gymunedau eraill i ddawnsio, gan gyrraedd cyn belled â Bangor i gasglu ychydig o geiniogau. Roedd y ddawns yn cynnwys parau o ddynion mewn dwy linell; roedd eu hwynebau wedi'u duo gan lwch glo neu gorcyn wedi'i losgi. Roeddent yn gorymdeithio mewn dillad gwyn – un llinell yn gwisgo rhubanau coch a'r llall yn gwisgo rhubanau glas – gan stopio yma ac acw i ganu. Ynghyd â'r dawnswyr roedd dau gymeriad: Billy, mewn gwisg ddu, a Cadi, mewn dillad merched. Byddai'r ddau gymeriad yn rhyngweithio ac yn casglu arian mewn llwy fawr (neu 'ladal'), gan ymateb i eiriau'r caneuon. Roedd y ddawns yn un gystadleuol, gyda chyfeiriadau at “neidio uchaf”, “neidio dros dy ben” neu “neidio dros y camfa”. Roedd llinellau eraill yn cyfeirio at y “ladal” ac at gasglu arian.
Roedd y geiriau union yn amrywio o ardal i ardal ac wedi esblygu dros y blynyddoedd. Er bod y traddodiad hwn yn gysylltiedig â'r iaith Gymraeg – ac â chymunedau lle'r oedd cyfran fawr o siaradwyr Cymraeg uniaith ynddynt ychydig dros ganrif yn ôl – ceir cofnodion o ddefnyddio rhai geiriau Saesneg hefyd. Mae llinellau fel “On the first day of May we’ll have a holiday” a “I wish i e, I wish I, I wish I had a penny o” yn rhoi blas ar y traddodiad i'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg.
Yn y ddeunawfed ganrif, cofnododd Lady Herbert Lewis o Gaerwys y gân a’r ddawns ar ôl sgwrsio â rheolwr Tŷ Tlodion Treffynnon (a ddaeth yn Ysbyty Lluesty yn ddiweddarach), ac mae’r fersiwn honno’n dal i gael ei defnyddio. Er i’r arfer golli ei boblogrwydd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, mae llawer o drigolion yr ardal yn cofio gweld perfformiad o’r Cadi Ha, neu hyd yn oed yn cofio o’u plentyndod eu hunain yn gwisgo’r gwisgoedd ac yn perfformio’r ddawns yn unol â’r traddodiad. Trefnodd Lois Blake, un o sylfaenwyr Cymdeithas Dawns Werin Cymru, berfformiad o’r Cadi Ha yn yr Wyddgrug ym 1936 i ddathlu canmlwyddiant geni Daniel Owen.
Diolch i Ieuan ap Siôn, canwr lleol, cafwyd adfywiad yn y 1970au a’r 1980au. Gan seilio’r ddawns ar atgofion ei dad a’i daid, casglodd griw ynghyd i deithio o gwmpas bob mis Mai. Roeddent yn arfer dawnsio “rhywsut, rhywsut” yn hytrach na chadw at batrwm llym, a chafwyd sawl ymddangosiad ar y teledu. Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, yn dilyn sgwrs rhwng y diweddar Chris Bailey a rheolwr canol tref Treffynnon, lansiwyd Gŵyl Cadi Ha bresennol. Gweithiodd Chris Bailey gyda’r diweddar Geoff Jenkins, arweinydd Dawnswyr Delyn yn yr Wyddgrug, i sefydlu gŵyl flynyddol. Cynhaliwyd yr ŵyl hyd at 2019, ond oherwydd Covid-19, ni allai’r ŵyl gael ei chynnal yn 2020 na 2021.
Cymerodd pum ysgol ran yn yr ŵyl gyntaf, yn ogystal â dawnswyr clocs lleol ac aelodau o grŵp dawnsio gwerin o'r Wyddgrug, Dawnswyr Delyn. Mae wedi bod yn llwyddiant mawr, ac wrth adeiladu ar brofiadau, mae wedi datblygu i fod yn ŵyl boblogaidd. Ymunodd mwy o ysgolion yn y blynyddoedd dilynol, gyda Ysgol Gwenffrwd o Dreffynnon yn bresennol ym mhob Gŵyl Cadi Ha. Cafwyd cefnogaeth gan ddawnswyr eraill o Ynys Môn, Caernarfon, Llangadfan (Powys), Caerdydd, Caerfyrddin, Aberystwyth a Phen-y-bont ar Ogwr ar adegau gwahanol dros y blynyddoedd. Bu ymweliadau hefyd gan dimau o ddawnswyr traddodiadol o Fflandrys yng ngorllewin Gwlad Belg, Llydaw ac Ynys Manaw. Ac yn olaf, rhaid i ni beidio ag anghofio'r tîm ffyddlon o gerddorion, stiwardiaid, technegwyr sain, cefnogwyr, athrawon a rhieni sydd wedi bod mor hanfodol i lwyddiant y Cadi Ha.