Gwybodaeth wedi'i chael gan Marcus Music Manufacturers & Repairers
Cafodd darluniau o'r Tabwrdd – drwm draddodiadol Gymreig – eu darganfod gan Cass Meurig ymhlith cofnodion y Parch. Meredith Morris. Roedd ef yn wneuthurwr offerynnau talentog o Gwm Gwaun, a welodd y drwm hon yn cael ei chwarae mewn angladdau yng Nghymru tua throad y ganrif. Mae'r enw 'tabwrdd' yn cyfateb i'r gair Saesneg 'tabor'. Mae'r 'tabor' yn hen fath o drwm (gyda theynnau) sydd, yn draddodiadol, yn cyd-fynd â phibau neu ddawnsio, ac mae ganddi nodweddion tebyg i'r Tabwrdd.
Mae'r offeryn hwn wedi cael ei adfywio gan Marcus Music – cwmni sy'n gwneud ac yn trwsio concertinas a drymiau, ac sydd wedi'i leoli yn y Casnewydd, ar safle Tredegar House (Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Dyma'r unig le yn y byd lle cânt eu gwneud. Mae eu tabyrddau yn amrywio o 14 i 20 modfedd o led, ac maent i'w clywed ar lwyfannau gyda cherddorion Cymreig fel Fernhill, Bethan Nia, Mwsog a Twmpdaith.
Darllenwch fwy ar www.marcusmusic.wales