Y Pibau Cymreig a'r Pibgorn

Mae cofnodion o bibau yng Nghymru yn dyddio o leiaf i'r 12fed ganrif. Mae Cyfreithiau Hywel Dda – o'r 10fed ganrif, gyda fersiynau diweddarach yn y 12fed a'r 13fed ganrif – yn cynnig gwybodaeth am statws cerddoriaeth yng Nghymru. Yn ôl y gyfraith, roedd disgwyl i'r brenin gydnabod statws y crefftwyr medrus yn ei wasanaeth drwy roi offeryn priodol i bob un ohonynt; nodir mai telyn, crwth neu bibau oedd yr offerynnau hyn. Yn 1176, cynhaliodd yr Arglwydd Rhys wledd Nadolig yn Aberteifi ar ffurf eisteddfod, yn debyg i'r hyn a adwaenwn heddiw.

“At Christmas in that year, the Lord Rhys ap Gruffudd held court in splendour at Cardigan, in the castle. And he set two kinds of contest there: one between bards and poets, another between harpists and crwthers and pipers and various classes of music-craft. And he had two chairs set for the victors.”

Ond, gyda dirywiad cyffredinol cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yn y 19eg ganrif, aeth y pibau allan o ddefnydd. Nid oes enghreifftiau pendant yn goroesi o bibau a ddefnyddid yng Nghymru, ond mae darluniau a cherfiadau sy'n dangos math o bibau sy'n debyg iawn i'r rhai a ddefnyddir yn Llydaw a Galicia – math a elwir weithiau yn ‘Bibau'r Iwerydd’. Ceir hefyd ddisgrifiad o Ynys Môn o offeryn a allai fod yn fath o bibau a chwaraeid gan fugeiliaid; roedd corn buwch ynghlwm wrth y bibell chwarae – yn debygol o fod yn bibgorn gyda sach.

Dros y 40 mlynedd diwethaf, tua, mae wedi bod adfywiad o chwarae pibau yng Nghymru. Mae repertoire o diwniau pibau Cymreig wedi cael ei ail-ddarganfod a'i ddatblygu, ynghyd â'r offerynnau eu hunain – offerynnau sy'n seiliedig ar bibau o Llydaw a Galicia, yn ogystal â defnyddio pibau o'r rhanbarthau hynny.

Y pibgorn yw'r offeryn pibau corn Cymreig. Mae gan y biben chwarae (y chanter) ffroenell o gorn buwch i amddiffyn y dafod, a chorn buwch ar y pen arall i chwyddo'r sain. Defnyddir tafod sengl, sydd fel arfer wedi'i wneud o gansen neu ddeunydd synthetig; mae nifer o enghreifftiau sydd wedi goroesi o'r 18fed a'r 19eg ganrif. Mae'n debygol mai'r pibgorn yw rhagflaenydd y bib-god (y bagpipe), ac mae'n bosibl bod cod wedi'i chysylltu â'r biben chwarae i wneud y broses o chwarae'n haws – fel y disgrifir yn y cyfeiriad at Ynys Môn uchod. Gelwir yr offeryn hwn yn 'bibau corn' (neu 'bibau cyrn'). Mae'n fath o bib-god sy'n cael ei chwythu â'r geg, gyda phiben chwarae sydd â thafod sengl, corn i chwyddo'r sain, a phiben drôn (sy'n cynhyrchu nodyn cyson). Ar hyn o bryd, mae Gafin Morgan yn datblygu pibgorn sy'n hollol synthetig, wedi'i anelu at ddechreuwyr, plant, ac i'w ddefnyddio mewn ysgolion ac ati. Hefyd, mae'r gwneuthurwr offerynnau Gerard KilBride wedi creu gwefan sy'n dangos sut i wneud eich pibgorn eich hun o bren ysgawen; gallwch ddod o hyd iddi yn https://pibgyrn.gerardkilbride.com/

Ar benwythnos 22-24 Mehefin 2012, cynhaliwyd yr Ŵyl Bibgyrn gyntaf ym Mhontsticill, Merthyr Tudful – Gŵyl Bibgyrn Pontsticill. Trefnwyd yr ŵyl gan Gerard KilBride a’r chwaraewyr pibau lleol Gafin Morgan ac Antwn Owen-Hicks, gyda chymorth gwirfoddolwyr o Bagad Pibau Morgannwg. Gobeithiwn y cynhelir yr ŵyl eto rywbryd!

Diolch i Antwn Owen-Hicks a Gafin Morgan am y wybodaeth.

 

Fideos

Previous
Previous

Caneuon Gwerin Cymreig gydag Arfon Gwilym

Next
Next

Tabwrdd: Darganfod y Drwm Gymreig