-
Mae FOCUS Wales yn ŵyl arddangos gerddoriaeth ryngwladol ac yn ŵyl ffilmiau sy'n gymwys ar gyfer gwobrau BAFTA; cynhelir yr ŵyl mewn nifer o leoliadau ledled dinas Wrecsam, Gogledd Cymru, yn ystod mis Mai.
-
Wedi'i leoli ar lan y môr, mae Gŵyl Werin Abergwaun yn ddigwyddiad sydd bron yn hollol rhad ac am ddim ym mis Mai, ac mae'n cynnwys cyngherddau, sesiynau, gweithdai a theithiau cerdded.
-
Mae Gŵyl Devauden yn ddigwyddiad sy'n addas i deuluoedd, wedi'i leoli yng nghalon Sir Fynwy dros Wyl Banc mis Mai.
-
Mae TAFWYL yn ŵyl ddeuddydd, rhad ac am ddim, a gynhelir ym mis Mehefin, sy’n dod â’r gorau o gerddoriaeth, celfyddydau a diwylliant Cymraeg ynghyd yng nghalon Caerdydd.
-
Mae Fire in the Mountain yn ŵyl gerddoriaeth werin a thraddodiadol ryngwladol sy'n addas i deuluoedd, ac fe'i cynhelir ger Aberystwyth, yn Cwmnewidion Isaf, yn ystod mis Mehefin. Maent hefyd yn cynnal gwersyll cerddoriaeth preswyl ar ôl yr ŵyl, tua diwedd yr haf.
-
Mae Gŵyl Werin Gŵyr yn ddigwyddiad bach, dielw, sy'n para tridiau ac yn cael ei gynnal ar Benrhyn Gŵyr hardd ym mis Mehefin.
-
Mae Sesiwn Fawr Dolgellau yn ddigwyddiad canu gwerin a byd a gynhelir yn nhref Dolgellau bob mis Gorffennaf er 1992.
-
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn un o wyliau mwyaf unigryw'r byd, gan ddathlu cerddoriaeth, dawns a diwylliant rhyngwladol yn nhref Llangollen, Gogledd Cymru, yn ystod mis Gorffennaf.
-
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod wythnos gyntaf mis Awst bob blwyddyn mewn lleoliad newydd, ac mae'n ddathliad o ddiwylliant ac iaith Cymru.
-
Mae Gŵyl Green Man yn ddigwyddiad pedwar diwrnod sy'n cynnwys cerddoriaeth annibynnol, gwyddoniaeth, comedi a chelf, ac fe'i cynhelir ym Bannau Brycheiniog yn ystod mis Awst.
-
Mae Between The Trees yn ŵyl indie-folk, natur a gwyddoniaeth, a gynhelir ar safle coediog o 100 erw ym Merthyr Mawr dros Wyl Banc mis Awst.
Gwyliau
Previous
Previous