Prosiect Teithio Gwerin Cymru
‘TAITH’ yw ein prosiect newydd, sy’n gyfres o deithiau gan artistiaid gwerin Cymreig - taith o ddarganfod. Mae 'taith' yn golygu taith cerddorol ac hefyd siwrne - enw addas am brosiect sy'n canolbwyntio ar ddarganfod a datblygiadau proffesiynol. Bydd y prosiect yn cefnogi chwe act werin o Gymru i berfformio mewn lleoliadau theatr ar ledled Cymru rhwng y gwanwyn 2026 a’r gwanwyn 2027, i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, ac hyrwyddo gyrfaoedd yr artistiaid. Nod y prosiect hefyd yw llenwi bwlch ar ran argaeledd rheolaeth a chefnogaeth i artistiaid gwerin yng Nghymru.
Mae TAITH yn cynnwys tair taith gan dri act canol-gyrfa a thri act ar ddechrau eu gyrfa neu’n datblygu. Bydd pob taith yn cynnwys dwy act, y prif artist ac act cefnogi. Bydd Trac Cymru, fel rheolwr y daith, yn trefnu pob elfen y teithiau, gan gefnogi'r artistiaid i ddatblygu eu gyrfaoedd. Cymerwch olwg ar ein teithiau sydd ar ddod a'r rhai a fu eisoes isod!
I DDOD: Gwilym Bowen Rhys Trio + Elin a Carys
-
Mae Gwilym Bowen Rhys wedi sefydlu ei hun fel llysgennad teilwng dros y Gymraeg a chanu, gartref yng Nghymru ac ar draws y byd hefyd. Cafodd hyn ei gadarnhau gan ei enwebiad ar gyfer Gwobr Canwr Gwerin y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2. Mae Gwilym wedi bod yn canu yn Gymraeg ers iddo allu cofio, sy’n rhoi iddo fo gysylltiad dwfn gyda chaneuon a cherddoriaeth traddodiadol. Perfformio fel triawd, gyda Patrick Rimes ar ffidil (Calan, VRi, ALAW) a Gwen Mairi ar delyn, mae caneuon Gwilym yn cael eu cyflwyno mewn trefniadau agos-atoch ac ystyriol, ond hefyd yn bwerus ac yn egniol, gan dynnu o'r traddodiad cyfoethog gwerin Cymru tra'n aros yn hollol gyfoes. https://www.gwilymbowenrhys.com/
Mae Elin a Carys yn chwiorydd a’u harmonïau agos a threfniadau o ganeuon gwerin a chaneuon gwreiddiol yn tynnu ar eu magwraeth gerddorol a thirweddau Canolbarth Cymru. Mae Elin a Carys yn plethu gitâr, piano, banjo, ffidil, acordion a chwibanau i'w perfformiadau, ac maen nhw newydd rhyddhau eu EP cyntaf o'r enw 'Hela'r dryw' gyda Recordiadau Sain. https://elinacarys.com/
-
Triawd Gwilym Bowen Rhys
Trac ‘Coed Glyn Cynon’ o albwm Aden: https://www.youtube.com/watch?v=ZRIFyuEuogI&list=OLAK5uy_mA45NQIW8-qJMf5l1GbkpC1JPpa0xJ7M8
Yn fyw yn Celtic Connections: https://www.youtube.com/watch?v=r6pLFYT3x8E
UoL Cyngerdd fyw: https://www.youtube.com/watch?v=x4WXfQC90Nc
Elin a Carys
Sengl ‘Hela’r Dryw’: https://www.youtube.com/watch?v=dSzY0nVLROY
‘Llyn Du’ yn fyw yn Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: https://www.youtube.com/watch?v=OM7N2KsVnKQ
‘Y Gwylliaid’ ar Stiwdio24/7: https://www.youtube.com/watch?v=1iYvL0CxMkU
-
I DDOD: Cynefin + Triawd Aneirin Jones
-
Mae Owen Shiers yn dod â Cynefin i’r llwyfan gyda’i fand, gan berfformio cerddoriaeth sydd wedi’i gwreiddio yng nghaneuon, straeon a thirwedd ei fro enedigol, sef Ceredigion. Gan dynnu ar flynyddoedd o ymchwil i draddodiadau llawr gwlad gorllewin Cymru, mae Owen yn rhoi bywyd newydd i ganeuon a lleisiau anghofiedig drwy drefniannau dyfeisgar a chyfansoddiadau gwreiddiol. Mae ei albymau clodwiw, Dilyn Afon a Shimli, wedi sefydlu Cynefin fel llais unigryw ym myd cerddoriaeth werin gyfoes Cymru. Yn fwyaf diweddar, enwebwyd Shimli ar gyfer Albwm Gwerin y Flwyddyn y DU 2025, ac fe’i henwyd yn Albwm Gwerin y Mis gan The Guardian. https://cynefinmusic.wales/en/home-page
Mae Aneirin Jones wedi bod yn rhan o greu albymau arobryn a pherfformio fel aelod o’r band siambr-gwerin, VRï. Yn awr mae’n dechrau’r daith fel artist solo, yn mireinio’r hen alawon a chaneuon dysgodd fel plentyn, gan gynnwys gyfansoddiadau gwreiddiol. Mae’r cyffro diddiwedd a’r teimlad trosgynnol o chwarae jigs, reels a chanu gwerin yn graidd i’w set, gyda Patrick Rimes ar y piano (Vrï, Calan, Alaw) a Rhys Morris ar gitâr (Avanc). https://aneirinjones.wordpress.com/page/
-
Cynefin
Sengl ‘Helmi’ o albwm Hemli: https://www.youtube.com/watch?v=KD6Gw4ITCp4
Trac ‘Helmi’ https://www.youtube.com/watch?v=KD6Gw4ITCp4
Trac ‘Dole Teifi / Lliw'r Heulwen’: https://www.youtube.com/watch?v=z-VuiA0iqFM
Aneirin Jones
Set o Focus Wales: https://www.facebook.com/watch/?v=988126694165671
Noson Lawen: https://www.youtube.com/watch?v=XTBj3c1M8t8
-
TBA!
GORFFENNOL: Mari Mathias + Angharad Jenkins & Patrick Rimes
-
Mae Mari Mathias yn creu cerddoriaeth wedi'i hysgogi gan y tirwedd, traddodiad a'r iaith Gymraeg. Mae hi'n dod ag ymchwydd o egni ar y llwyfan, gyda llais melodig, hardd a chain, gan gyfuno straeon a synau gwerin cyffrous gyda'i band chwe pherson. “Melodïau atmosfferig o'r gorffennol yn hedfan dros weadau, wedi’i gwehyddu gan fand dawnus.” Cafodd ei halbwm newydd, ‘Cyfarwydd’, ei gynnwys ar restr fer Gwobr Cerddoriaeth Cymru flynyddol 2026. https://marimathiasmusic.com/
Mae Angharad Jenkins a Patrick Rimes yn artistiaid gwerin medrus. Fel deuawd, maent yn mynd â’u cariad at gerddoriaeth werin Gymreig i lefelau newydd o agosatrwydd, gyda’u chwarae bywiog a’u harmonïau lleisol. “Prin y mae sain deuawd ffidlau’n swnio mor fywiog a swynol.” https://www.livemusicnow.org.uk/musicians/angharad-jenkins-patrick-rimes/
-
Mari Mathias
Sengl ‘Y Morgen’: https://youtu.be/KkrgtmlXEGs?si=eeqtKSt20JvoCmCq
‘Pais Dinogaid’ yn fyw ar Curadur: https://youtu.be/5MbfZldCgmg?si=w0Xm0bn7N4ZnY37p
'Pan O'wn y Gwanwyn' o EP Awen: https://youtu.be/NGWlu4JO3lA?si=Ow7t0qF4o1dsHLqN
Angharad Jenkins & Patrick Rimes
‘Rosehill’ o albwm Amrwd: https://www.youtube.com/watch?v=5hpZvGuZD84
Alawon ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi | Live Music Now: https://youtu.be/4m2JRVPOfUo?si=33LDu8EThp2vSos-
‘Tra Bo Dau’ yn fyw: https://youtu.be/YLkxBpdw6B8?si=GMbdDqPOrFLTswRF
-
Mae gwerthu tocynnau wedi cau.