Ar ôl wyth mlynedd o sgyrsiau, cerddoriaeth, archwiliadau manwl i ddiwylliant, galar sy'n deillio o'r gorffennol, a meithrin partneriaethau, daethom ynghyd yn WOMEX 2026 i lansio Fframwaith Datganiad Pan-Frodorol Cerddoriaeth y Byd Mae hwn yn ddogfen fyw, sydd wedi'i bwriadu fel gwahoddiad i bob un ohonom gydnabod a chefnogi'r cerddorion a'r sefydliadau hynny sy'n hyrwyddo lleisiau diwylliannau brodorol, Cenhedloedd Cyntaf, a diwylliannau sy'n defnyddio ieithoedd lleiafrifol ledled ein byd gwerthfawr. Gallwch lawrlwytho ein dogfennau, ac os hoffech ychwanegu eich llais at y sgwrs, gallwch eu llofnodi yma.
Cafodd y sgwrs hir hon ei hwyluso yn Aotearoa gan y Matariki Cultural Foundation, gyda chefnogaeth nifer fawr o bartneriaid rhyngwladol, gan gynnwys WOMEX, Cyngor Prydeinig, Celfyddydau cymru Rhwngwladol, Tātaki Auckland Unlimited, KOG Music, Gŵyl Knockengorroch, Sara Ajnnak, yr International Indigenous Music Summit, a Trac Cymru.