Gweithdai Cyfansoddi Caneuon Treftadaeth
Mae Cân Y Cymoedd yn brosiect gan Trac Cymru, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy’n dod â phobl ynghyd trwy gerddoriaeth werin, adrodd straeon a threftadaeth a rennir yn Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot. Mewn gweithdai creadigol dan arweiniad artistiaid proffesiynol, mae cyfranogwyr yn rhannu straeon, atgofion a syniadau, ac yna’n helpu i’w troi’n ganeuon gwerin newydd sbon sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau eu hunain. Trwy ddefnyddio offerynnau a thechnegau traddodiadol i fynegi lleisiau a phrofiadau cyfoes, mae Cân Y Cymoedd yn dangos sut y gall cerddoriaeth werin barhau i ddod â phobl ynghyd a rhoi ymdeimlad cryfach o gysylltiad a pherthyn i gymunedau. Mae’r holl ganeuon a greir trwy’r prosiect yn cael eu recordio gan Sylvia a Jonathan yn ScreenTales; gallwch wrando arnynt ar ein rhestr chwarae SoundCloud ar gyfer Cân Y Cymoedd! Edrychwch isod i weld ble mae’r prosiect wedi bod hyd yn hyn, ac os hoffech i ni ymweld â’ch cymuned leol, eich grŵp neu’ch ysgol, cysylltwch â ni!
Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw’r ariannwr mwyaf o dreftadaeth y DU. Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol rydym yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth. Ein gweledigaeth yw gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a’i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol. O adeiladau hanesyddol, ein hetifeddiaeth ddiwydiannol a’r amgylchedd naturiol, i gasgliadau, traddodiadau, straeon a mwy. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol y mae pobl yn ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Credwn mewn nerth treftadaeth i danio’r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i ennyn balchder mewn lle a chysylltiad â’r gorffennol.
Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn
I ddathlu Diwrnod Gwerin Ewropeaidd 2026, rydym wedi lansio ‘Ein Cân Fach Ni’ - cân a gyfansoddwyd gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn gyda’r cerddor gwerin Aneirin Jones fel rhan o’n prosiect treftadaeth Cân y Cymoedd. Mae’r gân hon yn defnyddio pennill traddodiadol o’r enw ‘Triban Morgannwg’ gyda geiriau sy’n sôn am ardal leol a threftadaeth y Porth a Chwm Rhondda.
Ysgol Gynradd Ynysboeth
Cynhaliwyd ein cyfres gyntaf o weithdai creadigol gan y cerddor gwerin Gareth Bonello (The Gentle Good) gyda disgyblion yn Ysgol Gynradd Ynysboeth yn Rhondda Cynon Taf. Cymerodd disgyblion Blwyddyn 4 a 5 ran mewn 8 sesiwn, gan greu cân werin newydd eu hunain yn seiliedig ar hanes a phrofiadau cyffredin eu sir. Gwyliwch y fideo hwn i weld eu taith, sy'n cynnwys perfformiad i'r ysgol a chyfle i wrando ar y recordiad terfynol.
Ysgol Gynradd Garth Olwg
Bu’r artistiaid gwerin a phop/roc Sam Humphries ac Eady Crawford yn gweithio gyda 15 o blant ym mlwyddyn 9. Creodd y disgyblion 3 grŵp ac ysgrifennodd 3 chân newydd yn y Gymraeg yn seiliedig ar dreftadaeth a hanes lleol, dros 8 sesiwn.
Ysgol Gynradd Tairgwaith
Text yma
Clwb Gwerin Pontypridd
Bu’r canwr/cyfansoddwr gwerin Gareth Bonello yn gweithio gydag aelodau Clwb Gwerin Pontypridd, yng Nghlwb y Bont, dros 8 wythnos, i greu amrywiaeth o gyfansoddiadau grŵp ac unigol, yn seiliedig ar dreftadaeth leol. Cymerodd rhwng 14 ac 20 o bobl barti dros gyfnod y prosiect, a chyfansoddasant 9 cân newydd mewn amrywiaeth o arddulliau, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Clwb Gwerin Llantrisant
Y canwr/cyfansoddwr gwerin enwog Huw Williams yn gweithio gydag aelodau Clwb Gwerin Llantrisant, Pont-y-clun, dros 8 wythnos, i greu amrywiaeth o gyfansoddiadau grŵp, yn seiliedig ar dreftadaeth leol. Cymerodd tua 15 o bobl ran yn ystod y prosiect, a chyfansoddasant 5 cân newydd mewn amrywiaeth o arddulliau.