Comisiynwyd y gyfres hon yn arbennig gan Trac Cymru i ddathlu ein 20fed pen-blwydd. Mae’n cynnwys alawon newydd, yn ogystal ag alawon mor gyfarwydd nes bod llawer o bobl yn tybio eu bod yn draddodiadol! Ymunwch â Jordan Price Williams wrth iddo gyflwyno 20 alaw a gyfansoddwyd dros yr 20 mlynedd diwethaf gan gerddorion sy’n gweithio o fewn traddodiad Cymru. Gwnaed y prosiect hwn yn bosibl trwy gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
Isod, gallwch ddod o hyd i gerddoriaeth ddalen a’r rhestr chwarae fideo lawn ar ein sianel YouTube. Ymunwch â grŵp Facebook Alawfa Cymru/Tunery Wales yma!