Clocsio gyda Beth

Cyfres Lockdown Trac Cymru

Ymunwch â Bethan Rhiannon a dysgwch ddawnsio clog yn eich cartref eich hun! Cwrs cyflawn o 8 gwers hanner awr a fydd yn eich tywys o fod yn ddechreuwr llwyr i berfformio symudiadau traed trawiadol. Wedi bod eisiau rhoi cynnig arno erioed? Dyma’ch cyfle i roi cynnig ar ddawnsio clog Cymreig am ddim. Ydych chi eisoes yn ddawnsiwr clog? Os oes gennych chi rywfaint o brofiad, efallai yr hoffech chi fireinio’ch techneg gyda dawnswraig sydd wedi mynd â thraddodiad dawnsio camau Cymru i uchelfannau newydd. Dawnsiwch er mwyn hwyl, ffitrwydd a chreadigrwydd gyda Beth. Dyma’r ddau fideo cyntaf, a gallwch ddod o hyd i’r rhestr chwarae YouTube lawn trwy’r ddolen isod! Gwnaed y prosiect hwn gan Trac Cymru yn bosibl gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.

Fideos

Previous
Previous

Gwneuthurwyr ac Atgyweirwyr Offerynnau

Next
Next

Dawnsio Gwerin