-
Mae Jordan Price Williams o VRï yn cyflwyno cyfres o fideos sy'n dysgu 20 alaw werin Gymreig gyfoes o'r 20 mlynedd diwethaf, i ddathlu pen-blwydd Trac Cymru yn 20 oed! www.trac.cymru/prosiectau/alawfa-cymru
-
Cliciwch yma i ddod o hyd i gasgliad o alawon a ddarganfuwyd gan bob aelod o AVANC yn ystod eu cyfnod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
-
Casgliad ar ffurf blog o alawon traddodiadol o lawysgrifau ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys ffotograffau, disgrifiadau a ffeiliau sain
-
Cymerwch olwg ar ein casgliad 2024 o alawon a chaneuon wedi’u hysbrydoli gan y môr – a grëwyd ar y cyd â’n cefndryd Celtaidd ar gyfer Diwrnod Cerddoriaeth Werin Ewrop – yn ogystal â’n rhestr chwarae 2025 o alawon, caneuon a straeon gwerin Cymreig: www.trac.cymru/prosiectau/efd
-
Cymerwch olwg ar Sesiwn, gwefan wych gan Clera sy'n cynnwys catalog anhygoel o sesiynau a chlybiau alawon ledled y wlad, yn ogystal ag alawon, setiau ar gyfer sesiynau a chaneuon.
-
Map Tunelines o Gerddoriaeth Draddodiadol: Prosiect gan y cerddor Helen Adam i gasglu a mapio alawon traddodiadol sy'n dwyn enwau lleoedd – alawon a enwir ar ôl lleoliadau – o Ynysoedd Prydain.
-
Cyfres ar YouTube o 20 o alawon ffidil wedi'u chwarae gan Bernie KilBride, gan gynnwys disgrifiad byr o bob alaw a'i tharddiad.
-
Comisiynodd Trac Cymru Guto Dafis i rannu rhai alawon Cymreig adnabyddus, sydd ar gael ar ein SoundCloud. Mae'n eu chwarae'n araf i ddechrau er mwyn gallu dysgu trwy wrando, ac yna ar gyflymder arferol.
-
Cyfres YouTube o 22 o alawon gwerin Cymreig, wedi’u cyflwyno’n syml er mwyn i gerddorion eraill allu eu dysgu a’u mwynhau; ysbrydolwyd y gyfres gan y cyfnod y treuliodd Oli yn tiwtora yn BEAM, ysgol haf Trac Cymru.
-
10 Tiwn gyda Delyth: Cyfres gan Trac Cymru gyda’r delynoes Delyth Jenkins, yn chwarae deg o hoff alawon traddodiadol Cymreig i chi eu dysgu – addas ar gyfer unrhyw offeryn.
Alawon Cymreig
Previous
Previous
Tiwtoriaid
Next
Next